Cylchgrawn mwyaf radical Cymru

Cliciwch YMA i archebu’r rhifyn diweddaraf am £4.95 (a £2.95 am gludiant)

neu

Cliciwch YMA i gael y rhifyn diweddaraf AM DDIM

Mae ‘Ein Gwlad’ yn gyfnodolyn o waith cenedlaetholgar Cymreig sydd yn anelu at gynnig llwyfan ar gyfer rhyddid barn y byddai eraill, sy’n poeni’n llai am Gymru a lles pobl Cymru, yn hapusach i’w dawelu.

Rydym yn siarad gyda, a thros,

y rhai y mai Cymru yn golygu pob dim iddynt;

y rhai hebddynt byddai Cymru yn air wag;

y rhai i bwy y mae Cymru, a’i chyfoeth a’i chyfleon, yn perthyn;

y rhai bydd yn dod at ei gilydd rhyw ddydd i ddweud,

EIN GWLAD!

‘For the earth that is more than holy

For the land that is OURS ALONE.’

Harri Webb

Yn y rhifyn presennol:

Camddeall Cenedlaetholdeb

Pam fod rhai pobl yn meddwl bod cenedlaetholdeb yn air ddrwg, a paham maent yn hollol anghywir yng nghyd-destun Cymru. Os ydych chi wedi blino ar ymatebion di-feddwl oddi wrth pobl sydd yn meddwl bod cenedlaetholdeb Prydeinig yn naturiol ond bod cenedlaetholdeb Cymreig yn ddrwg, bydd yr erthygl hon yn chwa o awyr iach.

Torri Calonnau yn y Cymoedd

Treuliodd y Cymoedd rhan helaeth o’r ugeinfed ganrif mewn perthynas angerddol gyda’r blaid Lafur – ond rwan mae’r blaid Lafur wedi bod yn cynnal perthynas amgen, gyda grym, ers cyhyd y mae’r Cymoedd yn dechrau torri calonnau. Beth nesaf i’r ardal hon? Mae’r erthygl yma’n cynnig rhai atebion annisgwyl.

Sut i newid eich Cyngor

Dyma her i chi – os bydd unrhyw ddarllenwyr ‘Ein Gwlad’ yn medru cael hyd i gyngor sir unrhyw le yng Nghymru sydd byth yn torri ei rheolau ei hun, byddwn ni’n bwyta het o’ch dewis chi a chyfrannu 50c i gronfa pensiwn uwch swyddogion y cyngor hwnnw. Os ydych chi wedi cael digon o gamgymeriadau eich cyngor, dyma tywyslyfr gwrthryfelwr i achosi ychydig o newidiadau. Mae’n haws nag y byddech chi chi’n feddwl.

Cymunedau’n gwegian dan y Wasgfa Credyd

Fel llawer o bobl eraill, mae’n bosib eich bod chi’n gofyn wrthoch chi eich hunain sut wnaeth sefydliadau mwyaf y byd gymaint o lanast, a pam maent yn cael eu hachub gan y Llywodraethau sydd wedi bod yn bartneriaid mewn trosedd gyda nhw, a phawb arall yn gorfod tynnhau er mwyn byw gyda’r canlyniadau. Mae’r erthygl hon yn edrych at beth aeth o’i le go-iawn, a sut mae modd i ni rwystro nhw rhag wneud hyn i ni fyth eto.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – gwerthu Cymru er mwyn amddiffyn Lloegr?

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwthio ymlaen gyda chynlluniau i werthu’r darn olaf o ofod gwyrdd yn Rhostyllen, ger Wrecsam, er fod mwyafrif o’r aelodau wnaeth bleidleisio (yn hytrach na rhoi eu pleidleisiau i’r Cadeirydd, arfer amheus iawn y mae hyd yn oed Senedd San Steffan wedi cwestiynu) alw arnyn nhw i beidio. Yn y cyfamser, maent yn gwario pres yn Lloegr i rwystro adeiladu ar fannau gwyrdd. Mae wedi’i ddangos fod byw yn agos at ofod gwyrdd yn dda i’ch iechyd – felly mae’r Ymddiriedolaeth wirioneddol yn sathru ar bobl Rhostyllen. Mae’r erthygl hon yn dal ei thrwyn yn ofalus wrth ddatgelu drewdod ac awch hyll yr Ymddiriedolaeth am elw.

A darnau bychain eraill…

Hefyd, wrth gwrs, ein cyfuniad arferol o gystadlaethau digywilydd, llythyrau o chwaeth amheus, hysbysebion agored am achosion radical, a diffyg parodrwydd i blygu glin i unrhyw feistr, boed yn San Steffan neu Fae Caerdydd.

Os ydych chi’n ymfalchïo dros Gymru, os ydych chi’n credu mewn Cymru, byddwch chi’n mwynhau ‘Ein Gwlad’.

Cliciwch YMA i archebu’r rhifyn diweddaraf am £4.95 (a £2.95 am gludiant)

neu

Cliciwch YMA i gael y rhifyn diweddaraf AM DDIM

Ein Gwlad - March 2009

Cliciwch YMA i archebu’r rhifyn diweddaraf am £4.95 (a £2.95 am gludiant)

neu

Cliciwch YMA i gael y rhifyn diweddaraf AM DDIM